Yn e-bost heddiw: Ymateb Ó£»¨¶¯Âþ Cymru i'r Ymgynghoriad - Cymwys ar gyfer y dyfodol Crynodeb Addysg Bellach
1. Ymateb Ó£»¨¶¯Âþ Cymru i'r Ymgynghoriad - Cymwys ar gyfer y dyfodol Taflodd yr asesiad a gynhaliwyd yn haf 2020 oleuni ar y materion sydd wrth wraidd ein system gymwysterau. Yn yr ymateb hwn, mae Ó£»¨¶¯Âþ y dadlau nad yw'r gyfres bresennol o TGAU arfaethedig yn cynrychioli anghenion y cwricwlwm newydd, dysgwyr nac economi Cymru yn ddigonol. Rydym yn tynnu sylw at ddadl sy'n datblygu yn y sector ac y tu allan iddo, gan ddarparu tystiolaeth am faterion sy'n ymwneud ag addysgeg, anghydraddoldeb a pharch cydradd. Gan bwysleisio eto ein barn nad oes modd saernïo adferiad a arweinir gan gydraddoldeb ar sail system o asesu sy'n rhoi popeth yn y fantol ac sydd, wrth reswm, yn methu un o bob tri dysgwr, rydym yn argymell y dylai'r rheoleiddiwr oedi proses cynllun Cymwys am Oes er mwyn rhoi cyfle i gynnal trafodaeth ehangach. Bydd y mater ar yr Agenda i gael ei drafod gan eich cynrychiolwyr yng nghyfarfod nesaf Cyngor Cymru a gynhelir ym mis Mehefin. Gallwch ddarllen yr ymateb cyflawn yma.
2. Crynodeb Addysg Bellach Cytundeb ar y Cyd ar Gyflogi Darlithwyr Rhan Amser a Delir Fesul Awr Rydym wrthi'n ailnegodi'r cytundeb hwn ac yn gofyn am farn aelodau a Delir Fesul Awr am y diwygiadau arfaethedig. Defnyddiwch y ddolen i weld y cytundeb presennol ynghyd â'r diwygiadau arfaethedig, sydd wedi'u hamlygu'n felyn, a rhowch wybod i ni os ydym wedi methu unrhyw beth neu os oes unrhyw beth arall yr hoffech i ni ei ystyried. Anfonwch unrhyw sylwadau i Karen Williams erbyn 14 Mai. Llwyth gwaith Llongyfarchiadau i bob un o'n haelodau a gymerodd ran yn ein harolwg o weithlu Cyngor y Gweithlu Addysg. Mae'r Cyd-Undebau Llafur, cynrychiolwyr cyflogwyr a Llywodraeth Cymru yn ystyried canlyniadau'r arolwg ac yn trafod sut i ddefnyddio'r canlyniadau hynny i gynllunio ar gyfer newidiadau i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd gan ymatebwyr. Hawliad Cyflog 21/22 Mae FESC wedi mabwysiadu cynnig cyflog a gaiff ei adlewyrchu yn hawliad cyflog y Cyd-Undebau Llafur o 5% o leiaf mewn cyflog ar gyfer staff Addysg Bellach yng Nghymru. Mae angen i ni drafod ein polisi â Chyd-Undebau Llafur eraill a llunio hawliad cyflog y gallwn ei gymeradwyo. Prosiect Llesiant ym maes Addysg Bellach Mae'r Cyd-Undebau Llafur yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag effaith COVID-19 ar staff ym maes Addyg Bellach, a byddwn yn cynnal prosiectau peilot mewn tri choleg yn y gobaith o annog twf a datblygiad diwylliant o berchenogaeth a rennir drwy gefnogi llesiant, hyrwyddo deialog ddiogel ac agored, ymwybyddiaeth o gyflyrau iechyd meddwl ac effeithiau cadarnhaol llesiant cynaliadwy. Dysgu Proffesiynol Mae Ó£»¨¶¯Âþ yn gweithio gyda'r ddau gyflogwr a Llywodraeth Cymru i gynnal cynlluniau peilot dysgu proffesiynol mewn dau goleg, gyda'r nod o wneud y canlynol: Nodi arferion da o brofiadau addysgu yn 2020/2021 a'r modd y gall y rhain gefnogi dull addysgeg sy'n gweddu orau i anghenion dysgwyr ym maes Addysg Bellach a'r byd heriol y maent yn gweithio ynddo. Nodi effeithiolrwydd dysgu proffesiynol a gyflawnir gan y colegau peilot o ran helpu i wella cyfraddau cadw. Beth sy'n gweithio, beth nad yw'n gweithio? Codi ymwybyddiaeth o'r safonau proffesiynol ac ystyried sut y gallant gefnogi diwylliant myfyriol lle y caiff staff eu hannog i ystyried y safonau mewn modd beirniadol a chreadigol wrth ddylunio dulliau cyflwyno, cynnwys y cwricwlwm a strategaethau addysgu, gan ganolbwyntio ymdrechion yn y tymor cyntaf ar gyfraddau cadw. Datblygu canllawiau ar ddulliau effeithiol o wella cyfraddau cadw o ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Nodi argymhellion o'r cynlluniau peilot i lywio ffyrdd effeithiol y gall colegau gefnogi dysgu proffesiynol eu hathrawon wrth iddynt lywio drwy gyfnod pwysig mewn hanes.
Mewn undod, Ó£»¨¶¯Âþ Cymru |